Dyddiad yr Adroddiad

10/04/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202409869

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Meddyg Teulu ei phlentyn wedi gwneud atgyfeiriad i’r ysbyty, am asesiad o faterion niwro-ddatblygiadol posibl, yn dilyn ymgynghoriad ym mis Hydref 2022. Cwynodd Mrs A nad oedd y Practis Meddyg Teulu wedi sylweddol ei gamgymeriad tan fis Gorffennaf 2023 a chan na fyddai’r Ysbyty’n ôl-ddyddio’r atgyfeiriad, mi fyddai oedi o 9 mis o leiaf cyn gellid cynnal yr asesiad. Cwynodd Mrs A hefyd nad oedd wedi cael ymateb ysgrifenedig i’w chŵyn ffurfiol.

Derbyniodd y Practis Meddyg Teulu ei fod wedi gwneud camgymeriadau, a hynny o ran methu ag atgyfeirio a methiant i ymateb i gŵyn Mrs A, gyda’r ddau ohonynt yn amryfusedd gweinyddol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Cytunodd y Practis Meddyg Teulu i’r setliad a gynigiwyd gan yr Ombwdsmon i ganfod yn bendant a fyddai’r Ysbyty’n fodlon ôl-ddyddio’r atgyfeiriad, anfon llythyr o ymddiheuriad ac eglurhad at Mrs A, sicrhau ei fod yn adolygu ei weithdrefn gwyno ac yn darparu hyfforddiant ar ddelio â chwynion i’w holl staff.