Dyddiad yr Adroddiad

09/19/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202202905

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A nad oedd y gwasanaeth rheoli a gofal a gafodd ei diweddar dad, Mr B, gan y Practis Meddygon Teulu ar gyfer y dirywiad yng ngweithrediad ei arennau yn 2022 yn wasanaeth o safon briodol.

Yn yr ymchwiliad, canfu’r Ombwdsmon bod y mwyafrif o’r apwyntiadau a’r rhyngweithio a fu yng nghyswllt gofal Mr B, ynghyd â’r broses o reoli ei edema â meddyginiaeth, yn wyneb y dirywiad yng ngweithrediad ei arennau, yn rhesymol ac yn briodol.

Ond canfuwyd achosion pan oedd y penderfyniadau clinigol a wnaed yn mynd yn groes i ganllawiau rhagnodi a chanllawiau clinigol, neu pan na ddilynwyd cyngor arbenigol a gafwyd. Roedd hyn yn codi cwestiynau a phryderon ynghylch pa mor effeithiol oedd y monitro a’r goruchwylio clinigol ar adegau yn achos Mr B. Roedd hyn yn arbennig o wir yn niffyg dogfennaeth gadarn i ategu rhai o’r penderfyniadau clinigol a wnaed. Canfu’r ymchwiliad bod cael cynllun ar y cyd yn bwysig pan mae clinigwyr gwahanol yn gysylltiedig â gofal claf. Pe bai cynllun o’r fath wedi bod ar waith, byddai wedi rhoi mwy o eglurder ynghylch rheolaeth gofal Mr B o gofio’r dirywiad yng ngweithrediad ei arennau.

Canfu’r ymchwiliad mai’r anghyfiawnder o ran Mrs A a’i thad oedd bod y methiannau a nodwyd yn creu ansicrwydd ynghylch pa mor effeithiol oedd gwasanaeth rheoli a gofal Mr B o gofio’r dirywiad yng ngweithrediad ei arennau. I’r graddau hyn, canfuwyd methiannau yn y gwasanaeth. Ar ben hyn, canfuwyd bod methiannau gweinyddol yng nghyswllt dogfennaeth gyfystyr â chamweinyddu. Cadarnhawyd cwyn Mrs A.

Cytunodd y Practis Meddygon Teulu i roi argymhellion yr Ombwdsmon ar waith ac i ymddiheuro i Mrs A. Cytunodd hefyd i gynnal sesiynau dysgu ynghylch rhagnodi ar gyfer pobl hŷn ac i ymgymryd â myfyrio ychwanegol er mwyn dysgu gwersi a chyflwyno newidiadau i brosesau i wella’r gwaith o wneud penderfyniadau clinigol.