Dyddiad yr Adroddiad

06/01/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202201840

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Practis wrth iddo ragnodi meddyginiaeth opioid i reoli ei boen ar ôl iddo gael llawdriniaeth colli pwysau (bariatrig), ac a oedd ymchwiliadau priodol wedi’u cynnal ar ôl iddo gwympo. Cwynodd hefyd am y modd roedd y Practis wedi ymdrin â’i gŵyn ac wedi ymchwilio iddi.

Canfu’r ymchwiliad mai hyn a hyn o opsiynau oedd ar gael i’r Practis er mwyn rheoli poen Mr A, a’i bod yn glinigol briodol i ragnodi opiadau i Mr A ac ystyried nad oedd canllawiau cenedlaethol yn atal hynny. Ar ben hynny, canfuwyd bod ymchwiliadau priodol wedi cael eu cynnal pan syrthiodd Mr A. Ni chafodd yr un o’r agweddau hyn ar gŵyn Mr A eu cadarnhau. O ran delio â chŵyn Mr A, canfu’r ymchwiliad nad oedd ymateb y Practis i’r gŵyn yn cyd-fynd â “Gweithio i Wella” (y broses ffurfiol ar gyfer delio â chwynion am y GIG yng Nghymru), gan nad oedd yn fanwl ac roedd wedi’i ddrafftio’n wael. Roedd hyn wedi gwneud i Mr A deimlo nad oedd ei bryderon wedi cael eu cymryd o ddifrif. Roedd hyn yn anghyfiawnder iddo, a gallai hyn hefyd fod wedi osgoi cwyn i’r Ombwdsmon pe bai wedi’i gweithredu’n briodol. Cafodd y gŵyn hon ei chadarnhau.

Derbyniodd y Practis argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr A am y methiannau o ran delio â chwynion, ac i gysylltu â’r Bwrdd Iechyd lleol i gael hyfforddiant delio â chwynion.