Dyddiad yr Adroddiad

23/01/2026

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202505794

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs A fod y Practis Meddygon Teulu wedi methu atgyfeirio ei brawd at ofal eilaidd yn brydlon rhwng mis Mawrth a mis Mai 2024. O ganlyniad, bu oedi wrth ganfod fod y canser a oedd ganddo ar ei goluddyn (roedd eisoes wedi cael diagnosis yn hynny o beth) wedi lledaenu i’w chwarren barotid dde (chwarren poer ychydig o dan ac o flaen y glust).

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a roddodd y Practis Meddygon Teulu i’r claf a’r modd y cafodd y claf ei reoli yn rhesymol ac yn briodol. Yn seiliedig ar symptomau’i brawd pan ymgyflwynodd, nid oedd unrhyw reswm i dybio nad haint neu dagfa yn y glust oedd yn bod. Ni chafodd cwyn Mrs A ei chadarnhau.