Fe wnaethom ymchwilio i gŵyn a gyflwynwyd gan fam M, Mrs P, gan ganolbwyntio ar ganfod a oedd ymgynghoriadau M gyda chlinigwyr mewn Practis Meddygon Teulu (“y Practis Meddygon Teulu”) mewn perthynas â symptomau yn yr abdomen rhwng 11 Mawrth 2024 ac 8 Mehefin 2024 wedi’u rheoli’n briodol, ac a gollwyd unrhyw gyfleoedd i roi diagnosis o lid y pendics.
Canfu’r ymchwiliad fod elfennau wedi’u hepgor yn ystod yr ymgynghoriadau a gafodd M yn y Practis Meddygon Teulu ar 6 Mehefin ac, yn benodol, yn ystod yr apwyntiad a gafodd yn y prynhawn ar 6 Mehefin, pan nad oes cofnod fod archwiliad o’r abdomen wedi’i gynnal. Roedd y methiant i gofnodi bod archwiliad o’r abdomen wedi’i gynnal, pan oedd y boen yn gwaethygu, yn golygu bod ansicrwydd ynghylch a gollwyd cyfle i atgyfeirio M at ofal eilaidd yn gynharach.
Fe wnaethom gadarnhau cwyn Mrs P yn rhannol ac argymell bod y Practis Meddygon Teulu, o fewn mis i ddyddiad yr adroddiad terfynol, yn ymddiheuro am y methiant yn y gwasanaeth a ganfuwyd yn yr adroddiad, a bod yr adroddiad yn cael ei rannu yn un o gyfarfodydd y practis i drafod y diffygion a ganfuwyd.