Cwyn am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y Practis, ac am ei ymateb i’w chŵyn nad oedd wedi ymateb i’w phryderon.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod methiant wedi bod ar ran y Practis i ymateb yn llawn i’r pryderon a godwyd gan yr achwynydd yn ei ymateb i’w chŵyn. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i gyhoeddi ymateb arall i’r gŵyn ac i gynnig cyfarfod wyneb yn wyneb. Cytunodd y Practis wneud hyn o fewn 4 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.