Dyddiad yr Adroddiad

05/17/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202107519

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Eiriolwr cwynion Mrs Y ar ei rhan ynghylch a oedd gofal ei mam, Mrs A, gan Bractis Meddyg Teulu (“y Practis”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr rhwng 4 Ionawr a 28 Mehefin 2021 yn briodol.
Canfu’r Ombwdsmon fod gofal y Practis rhwng 4 Ionawr a 28 Mehefin 2021 yn rhesymol. Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Practis wedi dweud bod meddyg teulu wedi ceisio cysylltu â Mrs Y dros y ffôn, y dylai’r ymgais hon fod wedi’i chynnwys yn ei chofnodion meddygol hefyd. Gwahoddodd yr Ombwdsmon y Practis i ddweud y dylai unrhyw alwadau o’r fath gael eu cofnodi yng nghofnodion meddygol y claf.
Ni chadarnhawyd y gŵyn.