Dyddiad yr Adroddiad

02/01/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202402061

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss D fod Practis Meddyg Teulu ei diweddar fodryb, Miss F, wedi ei hysbysu’n anghywir nad oedd meddygon yn ymweld â’r cartref pan ffoniodd gyda phryderon am Miss F ar 28 a 29 Mehefin 2023.

Canfu’r ymchwiliad, yn ôl pwysau tebygolrwydd, na ddilynwyd y polisi priodol gan y Practis Meddyg Teulu pan ffoniodd Mrs D gyda phryderon am Miss F ar 28 a 29 Mehefin 2023.

Cytunodd y Feddygfa i ymddiheuro i Mrs D am y methiannau a nodwyd a chynnig taliad o £750 iddi am y trallod a’r ansicrwydd a achoswyd gan y methiannau hyn. Cytunodd hefyd i ymgymryd â hyfforddiant pellach gyda’i staff gweinyddol i sicrhau dealltwriaeth lawn o’r Polisi Ymweliadau Cartref a’r angen am glinigwr i frysbennu unrhyw geisiadau am ymweliadau cartref. Yn olaf, cytunodd i adolygu’r ffordd y deliodd â’r achos hwn, er mwyn nodi unrhyw wersi i’w dysgu.