Dyddiad yr Adroddiad

05/26/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202207979

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs D bod Canolfan Feddygol SA1 wedi methu prosesu ei phresgripsiynau ac nad oeddent wedi ymateb i’w chwyn.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd gan y Ganolfan unrhyw gofnod o’r gŵyn a anfonwyd drwy e-bost i’r cyfeiriad cywir. Dywedodd bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol i Mrs D.

Penderfynodd yr Ombwdsmon i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad a cheisiodd gytundeb y Ganolfan i gofnodi’r gŵyn yn ffurfiol ac ymateb yn uniongyrchol i Mrs D.