Cwynodd Mr C am y gofal a gafodd ei fam ddiweddar, Mrs D, gan ei Phractis Meddyg Teulu (“y Practis”). Yn benodol, cwynodd Mr C y bu methiant gan y Practis ym mis Ebrill a mis Mai 2023 i nodi bod Mrs D mewn perygl o gael thrombosis gwythiennau dwfn (“DVT” – clot gwaed sy’n datblygu mewn gwythïen ddwfn yn y corff) ac i gymryd camau priodol.
Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a ddarparwyd i Mrs D yn briodol ac yn unol â safonau clinigol. Nid oedd unrhyw arwyddion, symptomau na sôn am DVT, a ddylai fod wedi ysgogi gweithredu, nac ystyriaeth o hanes blaenorol Mrs D o annigonolrwydd gwythiennol (lle mae gwythiennau yn y goes yn cael eu niweidio ac nid ydynt yn gweithio mor effeithlon ag y dylent). Ni gadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.