Dyddiad yr Adroddiad

28/05/2025

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202407035

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Bu i Miss A gwyno nad oedd y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd iddi ym mis Rhagfyr 2023 yn glinigol briodol o ystyried ei symptomau. Mynegodd Miss A hefyd bryderon am y ffordd y bu i’r Practis ymdrin â’i chwyn, gan gynnwys prydlondeb a chynnwys yr ymateb.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Practis wedi darparu gofal a oedd yn briodol o safbwynt clinigol, nad oedd wedi cofnodi’r cyngor diogelwch manwl, penodol yr oedd wedi ei roi. Ar y sail hon, nid oedd modd dod i gasgliad ynghylch a ddarparwyd gwybodaeth briodol i Miss A. Parodd hyn anghyfiawnder i Miss A, oherwydd gallai fod wedi arwain at oedi cyn iddi geisio triniaeth bellach ar gyfer symptomau a ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach. Yn ogystal, oherwydd yr oedi sylweddol cyn ymateb i gŵyn Miss A, ac oherwydd nad oedd yr ymateb yn egluro’r rhesymau dros yr oedi nac yn ymddiheuro amdano, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn ynghylch sut y bu i’r Practis reoli’r mater hwn.

Bu i’r Ombwdsmon argymell y dylai’r Practis fynd ati cyn pen pedair wythnos i ddarparu i Miss A ymddiheuriad ystyrlon ysgrifenedig am y diffygion a bennwyd o ran methu â chofnodi manylion y cyngor rhwyd ddiogelwch a roddwyd, ac am y ffordd y cafodd y gŵyn ei thrin. Yn ogystal, dylai’r Practis gynnig iawndal o £250 i Miss A oherwydd yr amser a dreuliwyd ganddi a’r drafferth yr aeth iddi i wneud ei chwyn. Bu i’r Ombwdsmon hefyd argymell y dylai’r Practis rannu’r achos â’r staff i dynnu sylw at y gwendidau a bennwyd o ran diffyg cofnodion penodol a manwl o’r cyngor rhwyd ddiogelwch.