Bu i Mr B gwyno bod practis meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Practis”) wedi ei atal rhag parhau i gael mynediad at gyflenwad o wrthfiotigau “rhag ofn” ar gyfer ei bronciectasis dwyochrol hirdymor.
Roedd Mr B yn gallu cael cyflenwad saith diwrnod o wrthfiotigau ar bresgripsiwn rheolaidd, ond ni chafodd ei gyflwr bronciectasis na’i ddefnydd o wrthfiotigau eu hadolygu ers yn hwyr yn 2019. Ym mis Hydref 2023, sylweddolodd y Practis fod Mr B wedi gofyn am wrthfiotigau bedair gwaith yn ystod y 12 mis blaenorol. Ceisiodd Fferyllydd y Practis gysylltu â Mr B, ond ni lwyddodd i wneud hynny. Felly, newidiwyd y presgripsiwn er mwyn i Mr B allu cael un presgripsiwn pellach, gyda chyngor y dylai meddyg teulu gynnal adolygiad.
Gwnaeth Mr B apwyntiad ym mis Rhagfyr 2023 am ei fod yn pryderu ei fod yn defnyddio gwrthfiotigau’n amlach, rhywbeth a gyd-darodd â dymuniad y Practis i’w adolygu. Yn yr apwyntiad hwn, bu i’r meddyg teulu atgyfeirio Mr B at y meddyg ymgynghorol anadlol i gael adolygiad ac i gael ei farn. Bu i’r meddyg teulu hefyd atal y gwrthfiotigau “rhag ofn” ac, yn hytrach, bu iddo gynghori Mr B i geisio cymorth meddygol brys os oedd yn teimlo bod angen gwrthfiotigau arno.
Canfu’r ymchwiliad fod y camau a gymerwyd gan y meddyg teulu o fewn ystod ymarfer clinigol priodol, ac nad oedd y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y Practis yn gyfystyr â methiant gwasanaeth a barodd anghyfiawnder na chaledi sylweddol i Mr B. Felly, ni chafodd y g?yn ei chadarnhau.