Dyddiad yr Adroddiad

09/28/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202203921

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs D am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei gŵr, Mr D, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”) a’i Bractis Meddygon Teulu. Cadarnhawyd yn rhannol gŵyn Mrs D bod y Practis Meddygon Teulu wedi colli cyfleoedd i gynnal asesiadau, ymchwiliadau a/neu atgyfeiriadau a fyddai wedi arwain at ganfod canser Mr D yn gynt. Canfu’r ymchwiliad bod y driniaeth glinigol roedd y Practis wedi’i rhoi i Mr D cyn 21 Rhagfyr yn briodol. Serch hynny, canfu bod methiant wedi bod o ran anfon sampl carthion i gael ei ddadansoddi. Roedd hyn yn golygu bod y Meddygon Teulu oedd yn asesu symptomau Mr D wedi cael eu hamddifadu o wybodaeth glinigol a allai fod wedi bod yn bwysig. Canfu’r ymchwiliad bod methiant wedi bod o ran atgyfeirio Mr D drwy’r broses llwybr brys lle’r amheuir canser ar 21 Rhagfyr. Roedd hyn wedi rhoi Mr D mewn perygl o niwed y gellid ei osgoi.

Hefyd, cadarnhaodd yr Ombwdsmon gwynion Mrs D bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymchwilio i ganser Mr D a’i drin mewn modd amserol a phriodol, ei fod wedi methu rhoi gwybod i Mr D mewn modd priodol beth oedd yn digwydd o ran penderfyniadau am ei ofal ac wedi methu ei gynnwys yn y penderfyniadau hynny. Canfu’r ymchwiliad bod oedi afresymol wedi bod ar ran y Bwrdd Iechyd wrth ymchwilio i symptomau Mr D yn dilyn atgyfeiriad gan Feddyg Teulu ar 11 Awst 2021. Er nad oedd yn bosib dweud a fyddai’r canser wedi cael ei ganfod yn gynt, roedd y cyfle coll hwn yn anghyfiawnder i Mr D. Canfu’r ymchwiliad hefyd bod methiant wedi bod ar ran y Bwrdd Iechyd i gyfathrebu’n briodol â Mr D a darparu cefnogaeth briodol iddo ar ôl iddo gael diagnosis o ganser, gan achosi trallod y gellid fod wedi’i osgoi iddo.

Cytunodd y Practis i argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro a thalu iawndal o £250 i Mrs D ac i rannu’r adroddiad a’r pwyntiau dysgu â chlinigwyr perthnasol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i argymhellion yr Ombwdsmon, sef: ymddiheuro a thalu iawndal o £750 i Mrs D, rhannu adroddiad a phwyntiau dysgu â chlinigwyr perthnasol, ac adolygu ei broses ar gyfer rhestru cleifion ar gyfer triniaethau endosgopi.