Dyddiad yr Adroddiad

05/02/2023

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202207361

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A ynglŷn â safon y gofal a roddwyd i’w wraig, Mrs A, gan Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Yn benodol, dywedodd Mr A y dylai ei wraig fod wedi cael cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb neu archwiliad, yn hytrach nac ymgynghoriad dros y ffôn.
Canfu’r Ombwdsmon, er na chynigiwyd apwyntiad wyneb yn wyneb i Mrs A, roedd y camau a gymerwyd gan y meddyg teulu i drefnu ymchwiliadau dilynol ar ei chyfer yn briodol. Canfu hefyd, er na ddarparwyd cyngor rhwyd ddiogelwch ynglŷn â sut i geisio cymorth, roedd wedi derbyn cyngor ar hyn yn y gorffennol ac felly roedd ganddi ddealltwriaeth dda o sut i gael mynediad at gymorth. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd hyn yn wir o bosibl am gleifion eraill, ac felly manteisiodd ar y cyfle i ofyn i’r Feddygfa ystyried hyn fel pwynt dysgu.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Practis, ac i ddatrys cwyn Mr A, cytunodd, o fewn 20 diwrnod, i ymddiheuro’n ysgrifenedig i Mr a Mrs A am y ffaith eu bod yn anhapus â’r gofal a roddwyd i Mrs A ac i atgoffa’r holl staff clinigol i sicrhau eu bod yn rhoi cyngor priodol ar rwydi diogelwch i gleifion yn ystod pob ymgynghoriad, boed yn bersonol, dros y ffôn neu drwy alwad fideo.