Cwynodd Mrs T er bod ei Phractis Meddyg Teulu (“y Practis”) wedi derbyn na wnaeth atgyfeiriad i Glinig y Fron yn dilyn ei hapwyntiad ar 9 Medi 2021, nid oedd wedi ystyried yr effaith yr oedd y gwall wedi’i achosi ar ei thriniaeth a’i phrognosis pan gafodd ddiagnosis o ganser terfynol Cam 4 y fron ym mis Mai 2023. Gwnaethom hefyd ystyried pa gamau yr oedd y Practis wedi’u cymryd mewn ymateb i gŵyn Mrs T, ac a oedd y rhain yn ddigon i liniaru’r tebygolrwydd y byddai digwyddiad tebyg yn digwydd yn y dyfodol.
Canfu’r ymchwiliad fod Meddyg Teulu yn y Practis wedi methu ag atgyfeirio Mrs T ddwywaith i Glinig y Fron, a bod y rhain yn fethiannau gwasanaeth sylweddol. Effaith y methiannau hyn oedd bod diagnosis a thriniaeth Mrs T wedi’u gohirio, ac roedd yn fwy tebygol na pheidio y byddai diagnosis cynharach wedi arwain at well prognosis a siawns uwch o gael iachâd.
Canfu’r ymchwiliad hefyd, er bod y Practis wedi cymryd camau cryf a chadarn mewn ymateb i gŵyn Mrs T, roedd rhai camau pellach y gallai eu cymryd i liniaru’r tebygolrwydd y byddai achos o’r fath yn digwydd eto.
Cafodd cwyn Mrs T ei chadarnhau.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis o fewn 1 mis:
• Ymddiheuro i Mrs T.
• Gwneud taliad iawndal o £2,500 i adlewyrchu’r methiannau sylweddol yn y gwasanaethau.
• Sicrhau bod yr achos yn cael ei drafod gyda’r meddyg teulu dan sylw yn eu harfarniad nesaf.
• Rhannu canllawiau ar rwydi diogelwch gyda’i holl staff clinigol.
Cytunodd y Practis i argymhellion yr Ombwdsmon.