Roedd Mr A wedi cwyno am faterion yn ymwneud â’r gofal a ddarparwyd iddo gan y Practis Meddyg Teulu.
Canfu’r Ombwdsmon er bod y Practis Meddyg Teulu wedi ymateb i gŵyn Mr A, nid oedd wedi ymateb yn llawn i’r pryderon a fynegwyd ganddo. Roedd hyn yn cyfrif fel camweinyddu a oedd wedi achosi anghyfiawnder iddo.
Sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis Meddyg Teulu i ymchwilio ac i ymateb yn llawn i bryderon Mr A ac i ymddiheuro iddo am beidio gwneud hynny yn y lle cyntaf. Cytunodd y Practis Meddyg Teulu i gymryd y camau hyn o fewn 2 fis.