Dyddiad yr Adroddiad

01/06/2023

Achos yn Erbyn

Meddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202202482

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Roedd cwyn Mrs X yn ymwneud â’r gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar dad, Mr Y, gan Feddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Yn benodol, cwynodd Mrs X am y ffordd yr oedd y Feddygfa wedi gofalu am gyflwr Mr Y rhwng Chwefror ac Awst 2021, ac a fethodd y Feddygfa â chymryd camau priodol a fyddai wedi arwain at roi diagnosis cynt o’i ganser colorefrol metastatig.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y gofal a’r driniaeth a roddwyd i Mr Y rhwng Chwefror ac Awst 2021 yn glinigol briodol. Casglodd fod cyflwyniad clinigol Mr Y yn gymhleth iawn oherwydd iddo gael diagnosis o ddiabetes pan ddechreuodd pethau, gan ei gwneud yn anoddach rhoi diagnosis o’i gyflwr. Roedd Mr Y hefyd wedi cyflwyno gyda symptomau uwch-gastroberfeddol sylweddol gan arwain at ei gyfeirio ac i gael endosgopi, ond gan wneud diagnosis o’i gyflwr yn anoddach. Yn olaf, casglodd yr Ombwdsmon y byddai cyfeirio Mr Y ar gyfer ei ganser yn gynt yn annhebygol o fod wedi arwain at ganlyniad tra gwahanol iddo oherwydd bod y canser wedi mynd mor bell.

Felly ni dderbyniwyd cwyn Mrs X am y Feddygfa.