Dyddiad yr Adroddiad

03/02/2023

Achos yn Erbyn

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202108332

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr N y dylai’r Practis Meddygon Teulu (“y Practis”) fod wedi canfod ei ganser yn gynt rhwng 26 Tachwedd 2020 ac Awst 2021.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a ddarparwyd i Mr N rhwng 26 Tachwedd 2020 ac Awst 2021, yn ystod y 3 chyswllt a gafodd â’r Practis, yn rhesymol ac yn briodol. Yn unol â hynny, nid oedd unrhyw dystiolaeth y dylai’r Practis fod wedi canfod canser Mr N yn gynt.

Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.