Dyddiad yr Adroddiad

03/23/2023

Achos yn Erbyn

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202208251

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs D am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Bractis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Practis”) ar ôl genedigaeth ei mab. Cwynodd Mrs D nad oedd wedi cael ymateb i’w chŵyn gan y Practis.

Dywedodd y Practis ei fod wedi ymateb i Mrs D ar 12 Medi 2022. Ni dderbyniodd Mrs D yr ymateb. Cytunodd y Practis i ail-anfon ei ymateb i gŵyn Mrs D o fewn 4 wythnos. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau y cytunwyd arnynt wedi datrys cwyn Mrs D.