Dyddiad yr Adroddiad

02/02/2023

Achos yn Erbyn

Meddygfa Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202108404

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am y gofal a ddarparwyd gan y Feddygfa i’w diweddar dad, Mr B, yn ystod pedwar ymgynghoriad dros y ffôn rhwng 17 a 29 Gorffennaf 2020 pan gyflwynodd symptomau o orbryder. Dywedodd Miss A, er bod symptomau Mr B wedi gwaethygu, bod y Feddygfa wedi methu cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb ac wedi rhagnodi meddyginiaeth heb gynnal archwiliadau iechyd corfforol priodol. Yn benodol, methodd y meddyg teulu ag ystyried y gallai symptomau Mr B o ddiffyg anadl a’i fferau chwyddedig fod oherwydd methiant y galon. Cafodd Mr B ei dderbyn i’r ysbyty ar 2 Awst gan y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau ac, yn anffodus, bu farw’r diwrnod canlynol oherwydd methiant y galon a waethygodd a niwmonia.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y ddau ymgynghoriad diwethaf dros y ffôn â’r meddyg teulu yn dod o fewn yr ystod o ymarfer clinigol priodol gan fod diffygion o ran asesu clinigol, rhagnodi a chadw cofnodion. Dylai Mr B fod wedi cael cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb oherwydd ei symptomau a’i ymddangosiad ac ni ddylai gwrthfiotigau fod wedi cael eu rhagnodi. Fodd bynnag, ni allai’r Ombwdsmon ddweud, oni bai am y methiannau, y byddai Mr B wedi cael ei dderbyn i’r ysbyty neu wedi goroesi’r cyfnod hwn o ofal.

Mewn ymateb i gŵyn Miss A, dywedodd y meddyg teulu a ddarparodd ofal Mr B fod y dysgu parhaus o’r gŵyn eisoes yn cael sylw drwy eu gwerthusiadau meddygol blynyddol (y broses a ddefnyddir gan feddyg i ddangos bod eu gwybodaeth yn gyfredol, a’u bod yn ffit i ymarfer). Roedd y Feddygfa hefyd wedi cynnal Dadansoddiad Digwyddiad Arwyddocaol (dull o ddysgu myfyriol i ddadansoddi cyfnod gofal ar gyfer cyfleoedd dysgu ac i lywio ymarfer yn y dyfodol).

Er bod y Feddygfa wedi cymryd cwyn Miss A o ddifrif, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd wedi nodi na chydnabod i Miss A fod diffygion yng ngofal Mr B. Rhannwyd canfyddiadau dros dro’r Ombwdsmon â’r Feddygfa, a gofynnwyd iddo gymryd camau pellach. Cytunodd y Feddygfa i ymddiheuro i Miss A am y methiannau yng ngofal Mr B, i’w trafod yn y feddygfa, ac i’r meddyg teulu fynd i’r afael â nhw yn ei arfarniad meddygol blynyddol.

Roedd y camau hyn, ynghyd â’r camau a gymerwyd eisoes gan y Feddygfa, yn adlewyrchu’r math o argymhellion y gallai’r Ombwdsmon eu gwneud ar ddiwedd ymchwiliad. Gan na ellid gwneud dim mwy drwy ymchwilio ymhellach, roedd yr Ombwdsmon o’r farn ei bod yn gymesur setlo’r gŵyn ar y sail honno.