Dyddiad yr Adroddiad

02/10/2023

Achos yn Erbyn

Canolfan Feddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202202982

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs X am y gofal a dderbyniodd ei diweddar fam, Mrs Y, gan y Bwrdd Iechyd a’r Feddygfa’n dilyn codwm ar 2il Tachwedd 2018 yn y cartref gofal lle’r oedd Mrs Y yn byw. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Uwch-Ymarferydd Nyrsio dan hyfforddiant (“TANP”) wedi methu ag archwilio Mrs Y yn briodol ar 5ed Tachwedd ac felly wedi methu ag adnabod ei bod wedi brifo’n ddifrifol (a gafodd ddiagnosis yn yr ysbyty 4 diwrnod wedyn fel toriad i’w phen-glin chwith). Ystyriwyd hefyd a oedd y meddyg teulu yn y Feddygfa wedi methu ag anfon Mrs Y i gael pelydr-X ar yr un dyddiad ar ôl cael trafodaeth â’r TANP, ac wedi methu ag ymweld â Mrs Y i’w harchwilio.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y TANP wedi methu ag archwilio Mrs Y yn briodol ac wedi methu â chadw cofnodion priodol ar yr archwiliad â’r ôl-apwyntiad gyda’r meddyg teulu. Derbyniwyd y gŵyn.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y ffordd y deliodd y meddyg teulu â sefyllfa glinigol Mrs Y yn briodol a bod y penderfyniad i beidio ag anfon Mrs Y i gael pelydr-X, ac i aros i weld sut yr oedd yn ymateb i fwy o gyffuriau lladd poen, yn rhesymol. Hefyd, oherwydd bod y TANP wedi archwilio Mrs Y ac adrodd ei chanfyddiadau i’r meddyg teulu, roedd yn dderbyniol bod y meddyg teulu heb fynd i weld Mrs Y i’w harchwilio. Ni dderbyniwyd y gŵyn.

Derbyniodd y Bwrdd Iechyd argymhellion yr Ombwdsmon i ymddiheuro wrth Mrs X am y methiannau dan sylw ac atgoffa’r TANP bod angen cadw cofnodion yn unol â safonau’r canllawiau clinigol / nyrsio perthnasol.