Dyddiad yr Adroddiad

07/02/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Meddyg Teulu

Cyfeirnod Achos

202407040

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms C nad oedd yn gallu gwneud apwyntiad gyda Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a arweiniodd at oedi wrth adolygu ei meddyginiaeth a rhoi presgripsiynau.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Practis wedi methu â chydnabod bod y claf wedi gwneud ymdrech sylweddol i wneud apwyntiad gan ddefnyddio’r system trefnu apwyntiadau. Roedd y Practis wedi colli cyfleoedd i wneud yn iawn am y sefyllfa a chynnig apwyntiad, ac roedd hyn wedi achosi anghyfiawnder i Ms C. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Ms C o fewn pythefnos i ymddiheuro am y methiannau ac i gadarnhau’r trefniadau ar gyfer trefnu apwyntiadau yn y dyfodol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ystyried, o fewn 4 wythnos, adolygiad y Practis o’r system trefnu apwyntiadau i sicrhau bod cleifion yn gallu trefnu apwyntiadau gyda’u meddyg teulu.