Cwynodd Mr F am y gofal a ddarparwyd i’w ddiweddar fam Mrs G. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd y camau a gymerwyd gan y Tîm Clinigol Acíwt mewn perthynas â chanlyniadau profion gwaed ei ddiweddar fam rhwng 25 Mai a 2 Mehefin 2023 yn glinigol briodol.
Canfu’r ymchwiliad fod canlyniadau prawf gwaed Mrs G yn dangos bod ei chyflwr yn gwaethygu rhwng 25 Mai a 2 Mehefin 2023. O’r herwydd, dylai fod wedi cael ei derbyn i’r ysbyty, ac ni ddylai fod wedi cael ei rhyddhau i ofal ei meddyg teulu. Nid oedd cofnodion a gadwyd ynghylch cyflwr Mrs G yn ystod y cyfnod hwn bob amser yn glir. Roedd y rhain yn fethiannau gan y Bwrdd Iechyd. Bydd Mr F yn cael ei adael ag ansicrwydd parhaol ynghylch beth fyddai’r canlyniad pe na bai’r methiannau hyn wedi digwydd, sy’n anghyfiawnder iddo. Cafodd cwyn Mr F ei chadarnhau.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr F am y methiannau a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad. Cytunodd hefyd i atgoffa’r clinigwyr a oedd yn ymwneud â gofal Mrs G o bwysigrwydd cadw cofnodion cywir, a sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r modd y rheolir canlyniadau profion gwaed sy’n gwaethygu.