Dyddiad yr Adroddiad

01/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202306226

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â chynnal ymchwiliad trylwyr i’w chŵyn nac ymateb yn llawn i’r materion a gododd ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a gafodd ei mab gan yr adran dermatoleg.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu ymateb digonol ac nad oeddent wedi rhoi sylw i’r materion a gododd yn ei chŵyn.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac i ddatrys cwyn Mrs A cytunasant y byddent, o fewn 30 diwrnod gwaith, yn darparu ymateb pellach yn ysgrifenedig i roi sylw i’r materion a godwyd yn ei chŵyn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn ddatrysiad priodol ac ni chynhaliodd ymchwiliad i’r gŵyn.