Dyddiad yr Adroddiad

17/01/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202402193

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal a ddarparwyd iddi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd Cyntaf”) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“yr Ail Fwrdd Iechyd”). Ymchwiliodd yr Ombwdsmon i’r pryderon penodol canlynol:

 

a) Bod y Bwrdd Iechyd Cyntaf wedi methu â chysylltu’n briodol â Sefydliad Ffrwythlondeb Cymru (“y WFI” – a weithredir yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot gan yr Ail Fwrdd Iechyd) i sicrhau bod Mrs A yn cael gofal ffrwythlondeb priodol.

 

b) Bod y Bwrdd Iechyd Cyntaf wedi methu ag egluro effaith bosibl hydrosalpinx Mrs A (lle mae tiwb ffalopaidd yn cael ei flocio, a all arwain at broblemau ffrwythlondeb) i Mrs A neu ei meddyg teulu mewn modd amserol.

 

c) Bod yr Ail Fwrdd Iechyd, cyn darparu cylchoedd o driniaeth ffrwythloni in vitro (“IVF” – lle mae wy yn cael ei dynnu o ofarïau’r fenyw a’i ffrwythloni â sberm mewn labordy) i Mrs A yn 2016 a 2020, wedi methu â chynnal sgrinio ychwanegol priodol, gan ystyried ei hanes meddygol.

 

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd Cyntaf wedi colli cyfleoedd yn 2016 a 2018 i hysbysu’r WFI am hanes Mrs A o hydrosalpinx. Achoswyd hyn gan gyfres o fethiannau cyfathrebu, a methiant ymddangosiadol i ystyried arwyddocâd y cyflwr. Methodd y Bwrdd Iechyd Cyntaf â chynnig llawdriniaeth i Mrs A i drin y cyflwr a gwella ei siawns o feichiogi trwy IVF. O ganlyniad i hyn, cyfaddawdwyd y driniaeth IVF a gafodd Mrs A. Methodd y Bwrdd Iechyd Cyntaf hefyd ag egluro arwyddocâd ac effaith bosibl y hydrosalpinx i Mrs A neu ei meddyg teulu. Cafodd cwynion a) a b) eu cadarnhau.

 

Canfu’r Ombwdsmon fod yr Ail Fwrdd Iechyd, drwy’r WFI, wedi methu â gofyn am gopi o adroddiad sgan a grybwyllwyd yn atgyfeiriad IVF 2016. Roedd hwn yn gyfle a gollwyd i sicrhau bod hanes Mrs A o hydrosalpinx yn cael ei ystyried ac yn cael sylw cyn dechrau IVF. Cafodd cwyn c) ei chadarnhau hefyd. O ganlyniad i’r methiannau a nodwyd, roedd y driniaeth IVF a gafodd Mrs A wedi’i pheryglu.

 

Cytunodd y Byrddau Iechyd i argymhellion yr Ombwdsmon, gan gynnwys y dylai’r ddau Fwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr a Mrs A ac adolygu sut y gwnaethant ymdrin â chwyn Mrs A. Cytunodd y Bwrdd Iechyd Cyntaf i argymhellion pellach gan gynnwys cynnig iawndal ariannol o £1950 i Mr a Mrs A, ac adolygu sut mae’n rhannu gwybodaeth glinigol gyda’r WFI.