Dyddiad yr Adroddiad

23/04/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202401069

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Bwrdd Iechyd, yn benodol;

• A oedd y Tîm Comisiynu wedi ystyried ceisiadau a gafwyd ar ei rhan rhwng 2022 a 2023 yn briodol

• A oedd yn briodol o safbwynt clinigol ei bod wedi’i dychwelyd at y Tîm Asgwrn Cefn ym mis Mehefin 2022 ac a oedd y penderfyniad hwn wedi’i gyfleu’n briodol iddi ac a oedd trefniadau monitro a gwaith dilynol y Bwrdd Iechyd yn briodol yn dilyn y penderfyniad hwn (hyd at fis Mai 2023)

• A oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn cydymffurfio â Gweithio i Wella1 ac a oedd camau’r Tîm Asgwrn Cefn yn dilyn yr ymateb i’r gŵyn (wrth adolygu Miss C a llunio cynllun triniaeth) wedi’u cymryd mewn ffordd amserol.

Canfu’r ymchwiliad fod y Tîm Comisiynu wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r ceisiadau cyllido a wnaed ar ran Miss C ac felly ni chadarnhawyd yr agwedd hon ar y gŵyn.

Byddai wedi bod yn fwy priodol pe bai triniaeth Miss C wedi parhau yn yr Ysbyty Arbenigol yn Lloegr a dylai Miss C fod wedi’i hysbysu o’r penderfyniad i’w dychwelyd ym mis Mehefin 2022 yn hytrach na Mai 2023. Yn ystod y cyfnod hwn ni chymerwyd dim camau i drefnu gwaith dilynol yn lleol. Mi oedd yr oedi hwn yn sicr wedi achosi straen a phryder ychwanegol i Miss C. Cadarnhawyd yr agwedd hon ar y gŵyn.

Canfu’r ymchwiliad fod gweithredoedd y Tîm Asgwrn Cefn yn dilyn yr ymateb i’r gŵyn wedi’u cyflawni mewn ffordd brydlon a phriodol gydag ymchwiliadau perthnasol wedi’u cynnal a’u cyfleu i Miss C. Fodd bynnag, nid oedd yr ymateb i’r gŵyn wedi delio â phrif bryder Miss C. Er ei fod yn ffeithiol gywir, roedd wedi hepgor cais Mehefin 2022 i ddychwelyd a bod hyn wedi gwneud i Miss C amau tryloywder a pharodrwydd y Bwrdd Iechyd i fod yn agored. Methodd y Bwrdd Iechyd hefyd â threfnu’r cyfarfod yr oedd Miss C wedi gofyn amdano a allai fod wedi helpu i ddisgrifio’r gweithdrefnau biwrocrataidd a chymhleth ac mi allai hyn fod wedi arwain at ddatrys y gŵyn yn gynharach. Cadarnhawyd yr agwedd hon ar gŵyn Miss C.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss C am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad, i dalu swm o £250 iddi am y methiannau o ran delio â’r gŵyn ac am yr amser a’r drafferth yr aeth iddo i gwyno a chynnig trefnu cyfarfod â Miss C i drafod y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad.

Hefyd, cytunodd y Bwrdd Iechyd i adolygu’r Weithdrefn Weithredu Safonol i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol (yn benodol y GIG, Gweithdrefn Awdurdod Ymlaen Llaw) ar gyfer parhaus ar draws ffiniau daearyddol ac i adolygu a chryfhau’r broses o ran penderfyniadau ynglŷn â dychwelyd, gan gynnwys ystyried sut a pha bryd mae’r penderfyniad yn cael ei gyfleu i’r claf a pha gamau a gymerir yn y cyfamser wrth aros am ddychweliad ffurfiol.