Dyddiad yr Adroddiad

17/06/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202403172

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei wraig, Mrs C, gan yr Adran Podiatreg ac Orthoteg (‘yr Adran Podiatreg’) a’r Ganolfan Iechyd sydd wedi’i lleoli o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (‘y Bwrdd Iechyd’). Ystyriodd yr ymchwiliad y canlynol:

  • A oedd yr asesiad, y diagnosis, y cyngor a’r gofal dilynol a ddarparwyd gan yr Adran Podiatreg ym mis Awst 2023 yn briodol yn glinigol.-
  • A oedd atgyfeiriad y Meddyg Teulu i’r Adran Podiatreg ar 27 Gorffennaf 2023 yn cynnwys digon o wybodaeth glinigol i’w alluogi i asesu brys yr atgyfeiriad yn briodol.
  • A gymerodd y meddyg teulu a aeth i weld Mrs C ar 17 Awst 2023 gamau clinigol priodol mewn ymateb i’r symptomau a adroddwyd ac a welwyd ganddi.

Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a ddarparwyd i Mrs C gan yr Adran Podiatreg yn briodol. Roedd atgyfeiriad y Meddyg Teulu i’r Adran Podiatreg ym mis Gorffennaf yn cynnwys digon o wybodaeth i ganiatáu asesiad priodol o’i frys, a chymerodd y Meddyg Teulu a fynychodd yr ymweliad cartref ar 17 Awst gamau clinigol priodol mewn ymateb i symptomau a adroddwyd ac a welwyd gan Mrs C. Ni chadarnhawyd y gŵyn.