Dyddiad yr Adroddiad

06/30/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Eraill

Cyfeirnod Achos

202107480

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr G am y gofal a’r driniaeth a roddwyd iddo gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Edrychodd yr ymhwiliad ar ei bryderon fod gormod o oedi cyn cynnal llawdriniaeth arno i dynnu canser y prostad, ac nad oedd therapi hormonau a roddwyd ym mis Mai 2021 yn briodol yn glinigol.

Canfu’r Ombwdsmon fod oedi annerbyniol wedi bod cyn cynnal llawdriniaeth prostadectomi ar Mr G. Roedd methiant hefyd i drafod y 3 phrif ddull o drin/monitro a oedd ar gael bryd hynny ynghyd â’r risgiau a’r manteision. O ganlyniad, gwrthodwyd y cyfle i Mr G wneud penderfyniad llawn ar sail gwybodaeth ynghylch a ddylid cydsynio i radiotherapi a’r therapi hormonau sy’n dod gyda hynny. Cafodd y gŵyn hon ei chadarnhau. O ran yr ail gŵyn, canfu’r Ombwdsmon, er ei bod yn rhesymol cynnig therapi hormonau, nad oedd yn briodol rhoi dos 6 mis i Mr G yn hytrach na dos misol llai. Roedd hyn yn amddifadu Mr G o gyfle i leihau difrifoldeb a hyd y sgil-effeithiau a brofodd o therapi hormonau. Cafodd y gŵyn hon ei chadarnhau hefyd.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr G am y methiannau a nodwyd a gwneud taliad o £750 iddo am yr anghyfiawnder a gododd o ragnodi dos 6 mis o therapi hormonau yn amhriodol. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd adolygu ei weithdrefnau i sicrhau bod risgiau opsiynau triniaethau yn cael eu harchwilio’n briodol drwy drafod gyda’r cleifion. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi’r argymhellion ar waith.