Dyddiad yr Adroddiad

06/26/2023

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202200104

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A am ofal a dulliau rheoli Practis Deintyddol a roddwyd i’w mam, Dr A, ers mis Hydref 2020. Dywedodd Ms A fod y Practis wedi tynnu gwasanaethau’n ôl yn afresymol oherwydd iddi gwyno. Cwynodd Ms A hefyd am y ffordd roedd y Practis Deintyddol wedi delio â’i chŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod elfennau o ofal a dulliau rheoli’r Practis Deintyddol yn rhesymol ac yn briodol. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon nad oedd profion pelydr-x wedi cael eu cynnal, neu nid oedd y rhesymau dros beidio â’i gwneud wedi’u cofnodi. Cafodd yr elfen hon o gŵyn Ms A ei chadarnhau. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Ms A ynghylch ffordd y Practis Deintyddol o ddelio â chwynion. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon nad oedd gwasanaethau deintyddol wedi cael eu tynnu’n ôl oherwydd bod Dr A wedi cwyno. Ni chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau.

Cytunodd y Practis Deintyddol i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon ac ymddiheuro i Ms A a Dr A am y diffygion a nodwyd, i adolygu’r ffordd y mae’n delio â chwynion er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r broses trin cwynion derbyniol, ac i adolygu canllawiau sy’n ymwneud ag amlder profion pelydr-x ar gyfer cleifion sydd â lefelau gwahanol o risg fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus y deintyddion.