Cwynodd Mr A nad oedd y practis deintyddol wedi ymateb yn llawn i bob agwedd ar ei gŵyn ffurfiol, a gyflwynwyd ym mis Hydref 2024.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y practis deintyddol wedi methu ag ymateb i ail lythyr gan Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd, yr Ombwdsmon gytundeb y practis deintyddol i ymateb i ail lythyr Mr A ac i ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb yn llawn. Cytunodd y practis deintyddol i wneud hyn o fewn 1 mis i benderfyniad yr Ombwdsmon.