Cwynodd Ms C am yr asesiad a’r driniaeth a ddarparwyd gan nyrs endometriosis a oedd yn gweithio i’r Bwrdd Iechyd. Yn benodol, ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon a oedd cynllun asesiad a thriniaeth gan y nyrs endometriosis, mewn apwyntiad ar 14 Mai 2024, yn briodol yn glinigol. Ystyriodd yr ymchwiliad hefyd a oedd y wybodaeth a rannwyd gan y nyrs endometriosis yng nghyfarfod dilynol y tîm amlddisgyblaethol (“MDT”) yn briodol.
Canfu’r Ombwdsmon fod asesiad priodol wedi’i gynnal ar 14 Mai a bod y cynllun triniaeth hefyd yn briodol. Roedd y wybodaeth a rannwyd yng nghyfarfod yr MDT ar 7 Hydref hefyd yn briodol yn glinigol. Er y cydnabuwyd bod hon yn sefyllfa anodd a gofidus i Ms C, nid oedd unrhyw dystiolaeth bod hyn wedi deillio o fethiant gwasanaeth gan y Bwrdd Iechyd. Ni chadarnhawyd y gŵyn.