Cwynodd Mrs B am y gofal a gafodd ei mam, Mrs A, gan y Bwrdd Iechyd yn 2023, yn benodol a roddwyd gormod o forffin i Mrs A yn dilyn ei chwymp a ddogfennwyd ar Uned Asesu’r Meddyg Teulu ym mis Ebrill, a bod y Bwrdd Iechyd wedi methu â nodi a thrin toriad yn asgwrn cynffon Mrs A (yr asgwrn wrth waelod yr asgwrn cefn) rhwng mis Ebrill a mis Mai. Cwynodd Mrs B hefyd fod modd osgoi ail gwymp ymddangosiadol rhwng 24 a 25 Mehefin, tra roedd Mrs A ar ward, ac a gafodd y gwymp ei drin yn briodol. Yn olaf, gofynnodd a gafodd ei chŵyn ei thrin yn briodol ac yn unol â gweithdrefn gwyno’r Bwrdd Iechyd.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod Mrs A wedi cael gormod o forffin ac felly ni chadarnhawyd y pwynt cwyn yma.
Ymhellach, gweithredodd y Bwrdd Iechyd yn briodol wrth geisio diagnosio a oedd gan Mrs A doriad yn ei hasgwrn cynffon ac nid oedd unrhyw dystiolaeth bod Mrs A wedi dioddef cwymp rhwng 24 a 25 Mehefin, felly ni chadarnhawyd y pwyntiau hyn.
Yn olaf, er nad oedd y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio’n llawn â’r broses gwyno statudol, rhoddodd ymateb ffurfiol i Mrs B i’w chwyn yn unol â’r ddeddfwriaeth. Ni chafodd y pwynt hwn ei gadarnhau.