Dyddiad yr Adroddiad

05/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202407606

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w gŵr, Mr A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd Cyntaf”) ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“yr Ail Fwrdd Iechyd”) ar ôl iddo gael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd yn 2023.

Ystyriodd yr ymchwiliad yn benodol a oedd Mr A wedi derbyn gofal ôl-lawfeddygol digonol yn dilyn niwrolawdriniaeth yn Ysbyty Prifysgol Cymru (“yr Ysbyty Cyntaf”), gan gynnwys monitro ac adolygiadau clinigol priodol. Canfu’r ymchwiliad fod Mr A wedi derbyn gofal meddygol ôl-lawfeddygol priodol. Roedd y gofal nyrsio yn ddigonol ar y cyfan, ond methwyd â chofnodi bod ei anghenion a nodwyd yn ymwneud â dryswch, cynnwrf ac ymddygiad wedi cael eu diwallu. Cadarnhawyd y gŵyn hon i’r graddau cyfyngedig hynny mewn perthynas â’r gofal a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd Cyntaf.

Ystyriodd yr ymchwiliad hefyd a oedd clinigwyr yn yr Ysbyty Cyntaf wedi cymryd camau digonol i sicrhau bod gofal Mr A wedi’i arwain gan y claf, gan ystyried ei allu meddyliol i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau a chynnwys aelodau’r teulu lle bo’n briodol. Canfu’r ymchwiliad nad oedd staff nyrsio wedi llwyddo i ddangos eu bod wedi ystyried yn briodol allu meddyliol Mr A i gydsynio i ymyriadau nyrsio. Collwyd sawl cyfle i gynnal asesiad gallu meddyliol digonol ac i ymgysylltu â theulu Mr A i sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed a’i fod yn derbyn gofal priodol dan arweiniad y claf. Roedd methiant hefyd i gyfathrebu’n ddigonol â Mrs A ar ôl iddi gael ei hatal rhag ymweld â’r ward oherwydd salwch. Cadarnhawyd y gŵyn hon hefyd mewn perthynas â’r gofal a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd Cyntaf.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd Cyntaf i ymddiheuro i Mrs A a thalu £750 iddi i gydnabod yr effaith a gafodd y methiannau ar Mr A a’i deulu. Cytunodd hefyd i atgyfnerthu pwyntiau dysgu yn ymwneud â dogfennaeth nyrsio gyda staff nyrsio perthnasol ac i gynnal archwiliad. Byddai hyn yn edrych ar gydymffurfiaeth â phrosesau sy’n ymwneud ag asesiadau galluedd meddyliol a gweithredu penderfyniadau diogelu rhag colli rhyddid (“DoLS”).