Cwynodd Mrs D, Mr C a Mrs E am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar dad, Mr B, gan y Bwrdd Iechyd ym mis Rhagfyr 2023. Ystyriodd yr ymchwiliad a ddarparwyd gofal a thriniaeth briodol i Mr B ar ôl iddo gael ei dderbyn i’r ysbyty ar 20 Rhagfyr, yn benodol mewn perthynas â phryd y nodwyd bod ganddo ffosffadas alcalïaidd uchel (ensym a geir yn y corff) a phan adroddodd am boen yn ei ben-glin dde ar 23 Rhagfyr. Ystyriodd yr ymchwiliad hefyd a achosodd hepgor meddyginiaeth niwed ac a ddarparwyd gofal a thriniaeth briodol i Mr B yn dilyn cwymp heb dyst iddo ar 26 Rhagfyr a phan ddirywiodd ei gyflwr wedi hynny.
Canfu’r Ombwdsmon fod gofal a thriniaeth briodol wedi’i ddarparu i Mr B mewn perthynas â’i ffosffadas alcalïaidd uchel a phan adroddwyd am boen yn ei ben-glin dde. Fodd bynnag, byddai hepgor meddyginiaeth wedi ymestyn ei boen yn ddiangen. I’r graddau cyfyngedig hyn, cadarnhaodd yr Ombwdsmon y pwynt cwyn hwn. O ran y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i Mr B yn dilyn ei gwymp, er bod methiannau gwasanaeth wedi’u nodi, ni achosodd y rhain anghyfiawnder i Mr B. Ni chadarnhawyd y gŵyn hon.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs D, Mr C a Mrs E am y methiannau a nodwyd, ac i roi tystiolaeth i’r Ombwdsmon o’r gwaith y mae eisoes wedi’i wneud i leihau’r risg o hepgoriadau meddyginiaeth pellach ar y ward.