Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar dad (Mr B) gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd pwysedd gwaed Mr B wedi’i reoli’n briodol tra roedd yn glaf mewnol rhwng 26 Rhagfyr 2022 a 4 Ionawr 2023, ac a oedd y penderfyniad i’w ryddhau heb ailgychwyn ramipril (math o feddyginiaeth gwrthbwysedd, o’r enw atalydd ensym sy’n trosi angiotensin (“ACE”) sy’n gweithio trwy ehangu’r pibellau gwaed gan ei gwneud hi’n haws i’r galon bwmpio gwaed o amgylch y corff), gyda chynllun i’w adolygu gyda’r meddyg teulu ymhen 7 i 14 diwrnod, yn briodol yn glinigol.
Canfu’r ymchwiliad fod pwysedd gwaed Mr B wedi’i reoli’n briodol yn ystod ei dderbyniad. O ystyried dirywiad arennol Mr B, roedd yn briodol tynnu ei feddyginiaeth gwrthbwysedd yn ôl, nes iddo ddechrau gwella. Roedd y penderfyniad i ailgychwyn lacidipine (meddyginiaeth gwrthbwysedd sy’n gweithio trwy ymlacio’r pibellau gwaed) yn ystod ei dderbyn i’r ysbyty, ond i barhau i atal ramipril hefyd yn briodol.
Roedd y penderfyniad i ryddhau Mr B heb ailgychwyn ramipril yn briodol yn glinigol. Mae’n arfer clinigol normal a da gohirio monitro pwysedd gwaed i feddyg teulu claf ar ôl cael ei ryddhau. Ni achosodd y gwall yn y crynodeb rhyddhau, ac roedd yn annhebygol ei fod wedi achosi, anghyfiawnder clinigol i Mr B. Ni chadarnhawyd y gŵyn.