Cwynodd Ms B am y gofal mamolaeth a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd a’r wybodaeth a ddarparwyd yn dilyn sgan. Roedd Ms B yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chŵyn, a oedd yn cynnwys gwallau yn ei barn hi.
Canfu’r Ombwdsmon fod problemau cyfathrebu yn y wybodaeth a ddarparwyd i Ms B, a waethygodd ei phryderon ac a achosodd bryder ychwanegol iddi yn ystod ei beichiogrwydd. Nid oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn mynd i’r afael yn ddigonol â phryderon Ms B, a achosodd bryder, cynnwrf a rhwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 6 wythnos, i ddarparu ymateb pellach i Ms B i’w chŵyn, gan fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd yn ei chŵyn i’r Ombwdsmon, ynghyd ag ymddiheuriad ysgrifenedig am unrhyw wallau yn yr ymateb cychwynnol i’r gŵyn.