Dyddiad yr Adroddiad

01/02/2024

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200985

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms C am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs A, gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (“yr Ymddiriedolaeth”). Cwynodd Ms C ynghylch a oedd ymgynghoriad Mrs A gyda’r Ymddiriedolaeth ar 29 Rhagfyr 2021 yn amserol ac a gafodd driniaeth ac asesiad priodol yn yr ymgynghoriad hwnnw, ac yn yr ymgynghoriad ar 10 Ionawr 2022. Cwynodd Ms C hefyd ynghylch pa mor briodol oedd cyfraniad yr Ymddiriedolaeth o ran gofal lliniarol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y driniaeth a’r asesiad yn ystod y ddau ymgynghoriad, a chyfraniad yr Ymddiriedolaeth o ran gofal lliniarol, ar y cyfan, yn rhesymol ac yn briodol. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.