Bu i Mrs C gwyno am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn benodol, a oedd yn glinigol briodol na fu iddi gael diagnosis canser yn sgil prawf mamogram a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2022 nac ar ôl profion ac ymchwiliadau a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023.
Canfu’r ymchwiliad mai mân annormaledd a ganfuwyd gan y prawf mamogram a gynhaliwyd gan Bron Brawf Cymru (rhaglen sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer menywod 50 i 70 oed sy’n byw yng Nghymru yr estynnir gwahoddiad iddynt gael eu sgrinio bob tair blynedd) ar 12 Rhagfyr 2022. Roedd dehongliad clinigol y mamogram hwn a’r ymchwiliadau a gynhaliwyd yn ystod apwyntiad clinigol dilynol ar 26 Ionawr 2023 i gyd yn glinigol briodol ac yn unol â’r polisi a’r canllawiau cenedlaethol. Ni chafodd y gwyn ei chadarnhau.