Dyddiad yr Adroddiad

07/05/2025

Achos yn Erbyn

Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202400012

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Bu i Miss T gwyno am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan ysbyty preifat a gomisiynwyd gan Gyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru. Bu iddi gwyno’n benodol na chafodd y llawdriniaeth faginoplasti gwrthdroi croen pidynnol (llawdriniaeth i greu gwain o feinwe pidynnol) ei chyflawni at safon glinigol briodol ac na chafodd ddarpariaeth ddigonol i leddfu poen ar ôl y llawdriniaeth. Bu i Miss T hefyd gwyno ei bod wedi’i gor-dawelu yn groes i’w dymuniadau yn ystod y llawdriniaeth gywiro.
Canfu’r ymchwiliad fod y llawdriniaeth faginoplasti wedi’i chyflawni at safon glinigol briodol. Hefyd, ar ôl y llawdriniaeth, cafodd Miss T ei monitro a chafodd ddarpariaeth briodol i leddfu poen. Ni chafodd y g?yn hon ei chadarnhau. Canfu’r ymchwiliad hefyd fod Miss T wedi cael ei thawelu’n briodol yn ystod ei llawdriniaeth gywiro, ac ni chafodd y g?yn hon ei chadarnhau.