Dyddiad yr Adroddiad

09/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202507953

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms G fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ymateb i’w chwyn, a gyflwynodd ym mis Ebrill 2025, ynghylch y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar bartner.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms G. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro a rhoi esboniad i Ms G am yr oedi, ymateb i’r gŵyn, a chynnig iawndal o £100 i gydnabod yr amser a dreuliodd a’r drafferth yr aeth iddi yn gwneud cwyn i’r Ombwdsmon. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.