Dyddiad yr Adroddiad

06/01/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202507778

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu mynd i’r afael yn llawn â’r pryderon a godwyd yn ei chwyn iddo.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb i’r holl bryderon a godwyd yn y gŵyn a bod hyn wedi achosi rwystredigaeth, pryder ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs A.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs A am beidio â mynd i’r afael â’i phryderon yn llawn a chyhoeddi ymateb cynhwysfawr i’r gŵyn o fewn mis. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.