Cwynodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymateb i gŵyn yr oedd wedi’i chyflwyno iddo ym mis Chwefror 2025.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymchwilio i’r gŵyn o fewn yr amserlen berthnasol a bod hynny wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon ddatrys y gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd roi esboniad ac ymddiheuriad i Mrs A am yr oedi a fu wrth ymateb i’r gŵyn a chyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn mis. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.