Dyddiad yr Adroddiad

09/12/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202500374

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Roedd ymchwiliad yr Ombwdsmon yn canolbwyntio ar y gofal a’r driniaeth a gafodd Plentyn B, sef merch Mrs A, gan Ysbyty Cyffredinol Glangwili (yr Ysbyty) ym mis Tachwedd 2023 pan gyflwynodd symptomau o poen ar yr ochr dde, poen y tu ôl i’w llygad dde a chwydu. Yn benodol, fe wnaethom ystyried y canlynol:

• A roddodd yr ysbyty feddyginiaeth briodol i Blentyn B i leddfu poen.

• A oedd clinigwyr yn llwyr gydnabod difrifoldeb symptomau Plentyn B ac a ddylai fod wedi cael sgan MRI yn gynt.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr Ysbyty wedi darparu meddyginiaeth briodol i Blentyn B i leddfu poen, ar sail ei chyflwyniad clinigol a bod y sgan MRI yn amserol. Ni chafodd cwyn Mrs A ei chadarnhau. Nododd yr ymchwiliad bwyntiau dysgu (yn bennaf yn ymwneud â dogfennaeth a meddwl clinigol) y gwahoddwyd y Bwrdd Iechyd i’w hystyried.