Dyddiad yr Adroddiad

25/11/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202504469

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwyn am ofal a thriniaeth a ddarparwyd yn dilyn hysterosgopi a biopsi ym mis Mawrth 2023 a ddangosodd hyperplasia annodweddiadol endometriaidd. Ni chafodd cynllun gofal y cytunwyd arno ei roi ar waith a chafodd Mrs A ddiagnosis o ganser yr endometriwm ym mis Gorffennaf 2024, a arweiniodd at hysterectomi a thynnu’r ofarïau.

Dywedodd Mrs A nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd yn mynd i’r afael yn llawn â’i phryderon ac nad oedd yn ymdrin ag atebolrwydd cymwys.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb yn mynd i’r afael â’r pryderon ac i wneud sylwadau ar atebolrwydd cymwys. Ymddiheuriad ysgrifenedig i’w ddarparu hefyd.