Cwynodd Mr A am oedi ar ran y Bwrdd Iechyd wrth gynnal llawdriniaeth pen-glin i aelod o’r teulu.
Canfu’r asesiad y gallai ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn fod wedi bod yn fwy manwl, yn enwedig o ran achos/achosion yr oedi a oedd wedi effeithio ar y llawdriniaeth. Roedd y diffyg eglurder yn gyfystyr ag anghyfiawnder, o ystyried cydnabyddiaeth y Bwrdd Iechyd o effaith yr oedi ar ganlyniad cleifion a’r heriau wrth ddarparu gwasanaethau.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb pellach i’r gŵyn, gan gynnwys sylw ar atebolrwydd cymwys. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny o fewn mis.