Cwynodd Mrs B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi chwistrellu aer i’w merch yn ystod sgan CT arferol. Roedd Mrs B hefyd yn anfodlon ag addewidion a roddwyd gan y Bwrdd Iechyd na chawsant eu dilyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon na ellid cyflawni dim pellach o ran y driniaeth. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro ac wedi amlinellu’r camau a gymerwyd mewn ymateb. Ymhellach, nid oedd yn ymddangos bod niwed sylweddol wedi’i achosi i ferch Mrs B. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod y Bwrdd Iechyd wedi cynnig cyfarfod i drafod yr ymateb i’r gŵyn ym mis Mawrth 2025, a bod hyn yn parhau i fod heb ddigwydd. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs B o fewn mis am ei fethiant i drefnu cyfarfod ac o fewn 2 fis, sicrhau bod cyfarfod yn digwydd, gan anfon llythyr dilynol at Mrs B i roi gwybod am unrhyw ganlyniadau pellach.