Dyddiad yr Adroddiad

25/09/2025

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth glinigol mewn ysbyty

Cyfeirnod Achos

202401728

Canlyniad

Adroddiad Diddordeb Cyhoeddus

Cwynodd Ms A, ar ran 7 o achwynwyr, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi’r gorau i ddarparu gwasanaeth arbenigol priodol i gleifion epilepsi ag anableddau dysgu (“AD”). Roedd gan bob un o’r 7 achwynydd blant sy’n oedolion a oedd wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth. Dywedasant fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â gwneud darpariaeth ddigonol ar gyfer eu gofal ar ôl i’r gwasanaeth ddod i ben ym mis Mehefin 2021, ac nad oedd cynllun digonol ar waith o hyd i ddiwallu anghenion cleifion epilepsi ag anableddau dysgu o fewn y Bwrdd Iechyd.

Canfu’r ymchwiliad, pan ddaeth Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu’r Bwrdd Iechyd i ben ym mis Mehefin 2021, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi adolygu’r cleifion ar ei restrau mewn modd amserol, ac nad oedd wedi darparu darpariaeth amgen ddigonol i ddiwallu eu hanghenion. Canfu’r Ombwdsmon hefyd nad oedd llwybr priodol a hygyrch ar waith o hyd, 4 blynedd yn ddiweddarach, i sicrhau bod anghenion y grŵp hwn o gleifion yn cael eu diwallu’n ddigonol.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn. Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod y diffygion a nodwyd yn effeithio ar grŵp o gleifion sy’n hynod agored i niwed. Nid oedd gwasanaeth priodol ar waith o hyd ac roedd hyn, o bosibl, yn effeithio ar fwy na’r 7 achwynydd a gysylltodd â swyddfa’r Ombwdsmon.

Gwnaeth yr Ombwdsmon nifer o argymhellion, a dderbyniwyd gan y Bwrdd Iechyd.

a) Cymryd camau ar unwaith i fwrw ymlaen â chynlluniau i roi llwybr gofal Epilepsi Anabledd Dysgu clir a hygyrch ar waith yn unol â chanfyddiadau’r Adolygiad Allanol, fel y bydd pob claf o fewn ei ardal yn cael cymorth a gofal sy’n briodol i’w hanghenion. Dylai gael adolygiad clinigol proffesiynol allanol i sicrhau bod y llwybr a’r darpariaethau arfaethedig yn ddigonol. Dylai ddiweddaru’r Ombwdsmon am y camau mae wedi’u cymryd o fewn 4 mis i ddyddiad yr adroddiad hwn.

b) Sicrhau bod amserlenni ynghlwm wrth unrhyw Gynllun Gweithredu a bod y Bwrdd yn goruchwylio’r cynnydd, yn unol â’r amserlenni a nodwyd.

O fewn 2 mis:

c) Bod pob un o’r 7 achwynwr, yn cael ymddiheuriad ysgrifenedig am y diffyg cyfathrebu a diffyg darpariaeth amgen yn cael ei rhoi ar waith i ofalu am eu perthnasau ar ôl i’r Gwasanaeth Epilepsi Anabledd Dysgu ddod i ben.

d) Rhoi dadansoddiad cynhwysfawr i bob un o’r 7 achwynwr am y gofal presennol sy’n cael ei gynnig i’w perthnasau, statws a’r cyfrifoldeb am unrhyw fonitro/adolygiadau gofal sydd ar waith, a phwy i gysylltu â hwy am gyngor neu os oes ganddynt bryderon.

O fewn 4 mis:

e) Cynnal adolygiad trylwyr o’i restrau cleifion epilepsi anabledd dysgu i sicrhau bod gan bob un ohonynt gynlluniau gofal/asesiadau risg a chynlluniau meddyginiaethau argyfwng cyfredol, ac nad oes dim cleifion epilepsi anabledd dysgu wedi’u colli neu sy’n dal i aros am apwyntiad niwroleg. Dylai’r archwiliad hwn gael ei arolygu gan y Bwrdd i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau’n briodol.