Cwynodd Miss E fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i gŵyn a gyflwynodd ym mis Awst 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod oedi sylweddol wedi bod cyn i’r Bwrdd Iechyd gyhoeddi ei ymateb. Achosodd hyn rwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss E. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi’r ymateb o fewn 6 wythnos. Dylai gynnwys ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a thaliad iawndal ariannol o £150 i gydnabod yr oedi.