Cwynodd Mr A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi rhoi gwybod am ganlyniad sgan brys lle’r oedd amheuaeth o ganser, o fewn yr amserlenni a geir yn y canllawiau cenedlaethol, a oedd wedi golygu na chafodd ei bartner y gofal a’r lliniaru poen yr oedd ei angen arno. Cwynodd Mr A hefyd fod oedi cyn i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’w gwynion ac nad oeddent yn rhoi sylw digonol i’w bryderon.
Penderfynodd yr Ombwdsmon er bod yr wybodaeth yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi’i rhoi mewn ymateb i’r ymholiadau’n rhoi sylw i bryderon Mr A am ofal ei bartner, nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â chwynion Mr A yn unol â rheoliadau cwynion GIG Cymru. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i adolygu ei brosesau sy’n delio â chwynion ac i ysgrifennu at Mr A o fewn 3 mis i ymddiheuro a’i hysbysu o’r camau a gymerir ganddo i wella sut mae’n delio â chwynion.