Cwynodd Mr C nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Bwrdd Iechyd”) wedi anfon atgyfeiriad ymlaen at ymgynghorydd arbenigol yn dilyn apwyntiad, a oedd wedi golygu ei fod wedi gorfod aros 21 mis arall am asesiad.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu’n brydlon i gywiro’r camgymeriad pan godwyd y mater gan Mr C, ond nad oedd wedi ymateb i’w gais am iawndal. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr C am beidio ystyried ei gais am iawndal a chynigiodd daliad o £700 iddo i gydnabod yr oedi a fu cyn prosesu’r atgyfeiriad.